(The English language workshops are now full – Mae’r gweithdai Saesneg bellach yn llawn.)
Lleisiau Newydd yn yr Oriel – Gweithdai Ysgrifennu Creadigol rhad ac am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
A fyddai gennych ddiddordeb mewn dod i gyfres o 5 gweithdy ysgrifennu creadigol rhad ac am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? Mae’r gweithdai yn rhan o broject ymchwil academaidd ehangach wedi’i drefnu gan Rachel Carney, bardd cyhoeddedig sy’n hwylusydd gweithdai profiadol.
Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn cael eu gwahodd i ysgrifennu cerddi mewn ymateb i weithiau celf yn yr Amgueddfa, gan ddechrau ym mis Mehefin. Nid oes angen profiad blaenorol o ysgrifennu barddoniaeth.
Ar ôl cymryd rhan yn y gweithdai, cewch gyfle i gyflwyno rhai o’ch cerddi i’w harddangos yn yr Amgueddfa. Bydd ymwelwyr â’r Amgueddfa’n gallu darllen eich cerddi ac yn cael eu gwahodd hefyd i roi cynnig ar ysgrifennu’u cerddi’u hunain.
Bydd dwy gyfres o weithdai:
- Gweithdai Cymraeg, yn cael eu cyflwyno gan Dan Mitchell (awdur, storïwr a hwylusydd addysg yr Amgueddfa) ar brynhawn Mercher.
- Mae’r gweithdai Saesneg bellach yn llawn.
I ddysgu rhagor ac i gofrestru, ewch i https://bit.ly/LleisiauN
Os oes gennych gwestiynau (e.e. am ofynion mynediad), anfonwch e-bost at Rachel ar carneyr2@cardiff.ac.uk
Rydym yn croesawu pobl o bob diwylliant, rhywedd, ethnigrwydd a chefndir cymdeithasol.
The English language workshops are now full.